RHODD CARAFANWYR LLANDŴ I GRŴP CEFNOGI CANCR Y PROSTAD GORLLEWIN CYMRU

Llun. Beverly Tonkin

Ar ddydd Sadwrn 26ain Hydref 2013, Cynrychiolodd Dick a Beverly Tonkin Grŵp Cefnogi Cancr y Prostad Gorllewin Cymru a derbyniom rodd o £1321.90 oddi wrth carafanwyr o Faes Carafanau Llandŵ.  Casglwyd rhoddion dros gyfnod yr haf gan Mrs Mary Hann a Mrs Geraldine Smith sydd yn hen gyfarwydd â chodi arian, a dros y blynyddoedd maent wedi codi arian at nifer o achosion da.  Mae Mary wedi penderfynu ymddeol erbyn hyn.

Dywedodd Phil Burr, Cadeirydd y grŵp cefnogi, ‘Rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a dderbyniwn oddi wrth mudiadau, busnesau a ffrindiau yn y gymuned leol sydd yn meddwl amdanom.  Rydym yn diolch i Mary a Geraldine a’r holl garafanwyr yn Llandŵ am ddewis cefnogi ein elusen eleni ac am eu rhodd hael.  Mae’n rhodd arbennig!  Hoffwn ddiolch hefyd i’n gwirfoddolwyr Dick (i’r chwith o Geraldine a Mary) a Beverly Tonkin am gynrychioli’n mudiad ar yr achlysur hwn.’