Gododd myfyriwr o’r chweched yn Aberystwyth, Iolo Fryer swm o £1000.00 tuag at Grŵp Cefnogi Cancr y Prostad Gorllewin Cymru. Gododd Iolo’r swm gwych hwn yn ystod ei flwyddyn fel Capten Iau yng Nghlwb Golff Borth ac Ynyslas. Gwelir ef yn cyflwyno’r siec i’r Ymddiriedolwr David Parmar-Phillips ar 1af Rhagfyr 2013. Diolch Iolo am ddewis cefnogi GCCPGC a llongyfarchiadau ar y gamp o godi’r arian!