Aelodaeth

Cynigir aelodaeth i bawb sy’n cysylltu â ni; cleifion cancr prostad, teuluoedd, ffrindiau a’r sawl sydd a’n hachos yn agos at eu calon. Ni chodir tâl. Nid oes rhaid bod yn aelod i ofyn am ein cymorth, ond anogwn ni chi i ymaelodi.

Mae gennym aelodau yng Ngheredigion, Sir Gâr, Sir Benfro, Abertawe, Castell Nedd – Port Talbot a Phen-y-bont. Nid ydym yn gwrthod dynion o bellach i ffwrdd.

Mae 8 o ysbytai mawr a 131 o feddygfeydd oddi fewn i’r ardal. Gall gleifion cancr y brostad orfod teithio cryn bellter i ymweld â chlinig neu dderbyn triniaeth.

RHODDION I AELODAU

Mae’r grwp yn cynnig rhoddion i aelodau i’w helpu gyda thrafnidiaeth, neu unrhyw achos i’w wneud a cancr y prostad. Uchafswm y rhodd yw £250, ac os oes angen help arnoch ffoniwch ein Trysorydd, David Bunce, ar 01570 471193.

CYFATHREBU

Nid yw’n bosib i’r aelodau i gyfarfod mewn man canolog, oherwydd maint y rhanbarth dan oruchwyliaeth y grŵp. Serch hynny, trefnwn giniawau anffurfiol yng Nghaerfyrddin ac Abertawe ar ddydd Llun cyntaf am yn ail fis. Wrth i’n rhifau i dyfu, gobeithiwn y byd cyfleoedd i gynnal cyfarfodydd rheolaidd anffurfiol, a ffurfiol gyda siaradwyr gwadd. Cynhaliwn Cyfarfod Blynyddol, fel arfer ym mis Mai.

Anogwn aelodau i ymaelodi wrth i ni godi ymwybyddiaeth ac arian oddi fewn i’w hardaloedd. Fel arall cysylltwn drwy e-bost, ffôn neu gylchlythyr. Cylchlythyrau

Am fwy o fanylion am ein ciniawau tafarn cysylltwch â Jean Goddard email jeannie_g@yahoo.co.uk ffôn 07890 320610.

About 2 or 3 weeks before the next “pub” lunch an email reminder will be sent to members who have given us their email addresses. This will include, where appropriate, the available lunch menu. We will then need to know who will be attending so that we can give the venue an idea of numbers.

Photo of previous lunch showing members attending:

Pub lunch at Newcastle Emlyn Rugby Club 7th April 2019

AELODAU YN MWYNHAU’R BWYD YNG NGHLWB RYGBI CASTELL NEWYDD EMLYN AR Y 7ED EBRILL 2019.