Anogwn bob dyn o 50 oed, neu’n gynharach os ydynt yn perthyn i garfan risg uchel*, i ymofyn am gyngor proffesiynol a phrofion cyson oddi wrth eu meddyg i sefydlu unrhyw abnormaledd o’r brostad. Anogwn ddynion i recordio a chadw canlyniadau pob prawf.
Rydym yn ymrwymedig i godi proffil cancr y brostad yng Ngorllewin a De Orllewin Cymru ar bob cyfle. Ymwelwn â Ffeiriau Iechyd, Sioeau Sir a digwyddiadau cyffelyb, a chynnal sgyrsiau am gancr y brostad o safbwynt y claf. PSA record sheet.
* Ar risg uwch mae:
- Dynion gyda hanes teuluol o gancr y brostad.
- Dynion Caribïaidd Affricanaidd.
- Dynion gyda hanes teuluol o gancr y frest.
Oherwydd y Pandemig Covid, nid yw digwyddiadau Ymwybyddiaeth ein Grŵp wedi cael eu cynnal.
Rydym wedi dechrau’r digwyddiadau hyn yn ddiweddar gyda chyflwyniad a roddwyd i weithwyr Sinclair Neyland ym mis Mehefin.
Dylai unrhyw sefydliad sy’n dymuno trefnu cyflwyniad ymwybyddiaeth gysylltu â’r Grŵp.