Rydym yn ffodus i dderbyn cyfraniadau oddi wrth busnesau lleol ac unigolion.
Er mwyn parhau a’n gwaith, cynhaliwn ddigwyddiadau codi arian a chasgliadau mewn amryw leoliadau yn y rhanbarth.
Rhydd pob digwyddiad gyfle i godi proffil ac ymwybyddiaeth am gancr y brostad. Rydym yn medru cyfeirio cyllid tuag at achosion a fydd er budd dynion gyda chancr y brostad.
- Yn 2015 rhoddom £15000 i Adran Gwasanaeth Wroleg Bwrdd Iechyd Hywel Dda er mwyn prynu peiriant biopsi.
- Yn 2011 rhoddwyd y swm o £6,750 i adran Urology, Ysbyty Glangwili i brynnu ail beiriant i gyflawni biopsi o’r prostate.
- Yn 2010 cyfrannwyd £4,000 i Ysbyty Treforys i helpu prynu teclynnau am driniaeth dwll clo brostadectomau. Mae nifer o ddynion o Orllewin Cymru wedi elwa o’r driniaeth hon.
- Rydym hefyd wedi cyfranni at Prostate Cancer UK ag Ymchwil Cancer Cymru.
Dyma lun o’n cyn Cadeirydd Ron Davies yn derbyn siec am £1000 oddiwrth David Protheroe o Glwb Golff Garnant, lle trefnwyd ddiwrnod golff i godi arian i’n elusen. Gweler yn y llun, o’r chwith, Tony Falvey, Capten y Clwb, John Dunn, Ron Davies, David Protheroe, Eric Davies a Pero. Diolchwn i bawb am eu haelioni.
CYFRANIADAU
Rydym bob amser yn hapus i dderbyn cyfraniadau ar gyfer parhau gyda’n gwaith.
Sieciau yn daladwy i:
Grŵp Cefnogi Cancr y Brostad Gorllewin Cymru
a’i ddanfon at:
David Bunce
Trysorydd
Gwarllyn
Dihewyd
Ceredigion
SA48 7QL
Os ydych yn drethdalwr, wrth lenwi a dychwelyd Datganiad Rhodd Cymorth atom, bydd eich cyfraniad yn fwy gwerthfawr i ni.
Lawrlwytho Ffurflen Datganiad Rhodd Cymorth yma
Neu, gallwn bostio neu e-bostio Ffurflen Datganiad Rhodd Cymorth atoch.
Diolch yn fawr