CEFNOGWYR MG ABERTAWE YN CODI £1600.00 AR GYFER GCCPGC

Mynychodd Ron Davies rali Cefnogwyr MG Abertawe ar 29ain Medi 2013. Hwn oedd 18fed Taith Bannau’r clwb yn dechrau yn Rhydaman ac ymlaen dros y Mynyddoedd Du, Mynydd Epynt trwy Abergwesyn, Tregaron, Llambed, Llanybydder a Brechfa. Gorffennodd y digwyddiad yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne, ar ôl gwneud 60 milltir. Ar 4ydd Chwefror, mynychodd Ron noson gyflwyno yn Plough & Harrow, Llangyfelach. Codwyd swm o £1600.00. Os edrychwch ar y llun, mae Cadeirydd y Clwb Lionel Rosser i’r dde o Ron gyda threfnydd y digwyddiad Brian Hutson sydd yn rhannu’r gwaith gyda’i wraig Carol.