Grŵp o wirfoddolwyr ydym ni sy’n cael ei arwain gan gleifion yng Ngorllewin a De Orllewin Cymru. Cynigiwn gefnogaeth i gleifion cancr y brostad a’u teuluoedd.
CYNNIG CEFNOGAETH
Ymdrechwn i ategu gwaith ymgynghorwyr, doctoriaid, nyrsys a phawb sy’n gweithio gyda chleifion cancr y brostad. Nid ydym yn cynnig cyngor meddygol. Ond ymdrechwn i gynnig cyfleoedd i ddynion drafod gyda dynion eraill sydd â phrofiad o ymchwiliad, diagnosis a thriniaeth ar gyfer cancr y brostad. Gallwn eich cysylltu â dynion sydd wedi cael ystod o therapïau.
LLINELL GYMORTH GYFRINACHOL:
- 01239 710265 (Cymro Cymraeg)
- 07974 801818 (Cymro Cymraeg)
- 01559 363504 (Cymro Cymraeg)
- 01834 831442
- 07870 917806
Os hoffech drafod yn gyfrinachol, gellwch hefyd ffonio’r rhifau uchod. Gallwn roi chi mewn cysylltiad â chleifion cancr y brostad arall gyda phrofiad o driniaethau a chanlyniadau eraill. Gofynnwch os ydych am siarad yn Gymraeg, mi geisiwn drefnu hynny.
***Rhif symudol yw’r 4ydd rhif yn y rhestr uchod. Mae’n gallu fod yn ddrud i’w ffonio o linell tŷ ond peidiwch â phoeni. Bydd derbynnydd yr alwad yn hapus i’ch ffonio nol.
CYDWEITHIO
Yn ogystal â gweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y GIC, rydym wedi datblygu cysylltiadau gydag Elusen Cancr y Prostad, Gweithred Prostad, Cymorth Cancr Macmillan, Gwasanaethau Gwybodaeth a Chefnogi Cancr – Abertawe CISS, a chyrff lleol a chenedlaethol sy’n gweithio ym maes gofal cancr.
Rydym yn Elusen Cofrestredig, rhif 1129395. Noddwr Chris Jones, Cyflwynydd radio a teledu. Rydym yn perthyn, ond yn annibynnol o, Ffederasiwn Cefnogi Cancr y Brostad Rhif Elusen Cofrestre